Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neud ei ffortiwn trwy ddwyn allan argraffiad hardd ac unffurf o'r clasuron Cymraeg.

Yr wyf wedi traethu'n unig am awduron marw rhag cael fy nhemtio i wenieithio neu i beri tramgwydd i awduron byw. Pe buasai'r Methodistiaid mor gul ag ambell gyfundeb Cymreig, dywedaswn y dylem edrych na lygrom chwaeth ein pobl ieuainc trwy eu hannog i ddarllen llyfrau a elwir yn grefyddol, yn unig am eu bod wedi eu gwneuthur gan ddynion o'n sect ni. Yr ydys mewn rhai cylchoedd yn y dyddiau hyn yn gwneud masnach o grefydd, ac yn gwneud cam â chrefyddwyr, trwy gymell arnynt lyfrynnach a phapurach crefyddol yn lle llenyddiaeth grefyddol. Os teimlir anhawster i wybod pa lyfrau crefyddol sy'n llenyddiaeth grefyddol, ymofynner pa lyfrau sy mor gymeradwy heddiw ag oeddynt ddau neu dri chant o flynyddoedd yn ôl. Y mae gwyddoniaeth yn myned rhagddi; y mae hyd yn oed esboniadaeth grefyddol yn myned rhagddi'n araf, er pan ddechreuwyd cyfieithu esboniadau tramorwyr i'r Saesneg; ond y mae llenyddiaeth grefyddol, a llenyddiaeth "gyffredin" hefyd, yn myned yn ei gwrthol. Y mae'n wir y rhaid i bregethwyr ieuainc ddarllen llyfrau crefyddol nad oes iddynt ddim gwerth llenyddol, sef llyfrau wedi eu hamcanu i'w gwneuthur hwynt