yn hytrach yn wybodus nag i fagu ynddynt ysbryd crefyddol a chwaeth lenyddol; ond nid yw llyfrau addysgiadol o'r fath yma, pa mor hylaw ac angenrheidiol bynnag y byddont, ddim yn rhan o lenyddiaeth. Nid adeilwaith ydynt hwy, eithr defnyddiau i wneuthur adeilwaith. Y mae'n dda gennyf weled cynifer o aelodau'r Ysgolion Sul yn darllen llyfrau addysgol, ond fe fyddai'n well gennyf o'r ddau eu gweled yn darllen llyfrau llenyddol, am fod i'r rhain, yn enwedig os byddant yn grefyddol hefyd, fwy o ddylanwad ar yr holl ddyn.
Yr wyf felly yn eich annog i ddarllen y llyfrau Cymraeg a enwyd, nid am fy mod yn meddwl y cewch ynddynt hwy gymaint o wybodaeth ag a gewch mewn llyfrau diweddarach, eithr am fy mod yn credu eu bod yn llyfrau manteisiol i fagu ynoch ysbryd defosiynol a chwaeth lenyddol. Beth bynnag yw eu diffygion, y maent wedi eu hysgrifennu mewn arddull sy'n debycach i arddull urddasol y Beibl, sef yr arddull sy'n gweddu orau i'r pulpud, a'r arddull sy'n debycaf i barhau mewn bri. Gan na fuwyd hyd yn hyn yn dysgu'r Gymraeg yn ysgolion ein gwlad, nid yw'r Cymry yn rhoi cymaint o bwys ar iaith ac arddull ag a ddyry cenhedloedd eraill; ond y mae arwyddion pur amlwg y rhoddir mwy o bwys arnynt o hyn allan.