bydd y rhan fwyaf ohonoch chwi yn pregethu yn gyffredin, ac na all rhai ohonoch obeithio rhagori byth wrth bregethu mewn un iaith arall. Am hynny, y mae dyled grefyddol arnoch chwi i wneud y Gymraeg yn offeryn i ddiwyllio'ch meddwl eich hunain, ac yn gyfrwng cymwys i drosglwyddo'ch meddyliau a'ch teimladau i eraill. Fel y galloch wneud hynny, yr wyf yn eich annog i ddarllen cryn lawer ar lenyddiaeth grefyddol ein hen dadau. Prin y rhaid imi ddweud na fynnwn ichwi ymfoddloni ar ddarllen llyfrau Cymraeg yn unig: yn hytrach, mi a'ch cynghorwn i beidio â brysio fyned yn fugeiliaid i leoedd poblog, eithr i ddewis yn hytrach leoedd bychain, gwledig, fel y caffoch hamdden ym mlynyddoedd cyntaf eich gweinidogaeth i ddarllen y llyfrau hynny a gyfrifir yn oreuon y byd. Ar ôl gadael y Bala, na chefnwch am byth ar Platon, Aristotel, a Tacit; canys y mae'n wiw darllen y rhain drachefn a thrachefn mewn rhyw iaith neu'i gilydd. Na fydded y llyfrau ar eich silffoedd yn rhy Biwritanaidd, na hyd yn oed yn ddiwinyddol i gyd; canys yn y dyddiau hyn fe ddisgwylir i bregethwr fod yn nesaf peth i hollwybodol. Darllenwch lyfrau'r Ellmyn er mwyn helaethu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Ffrancwyr er mwyn dysgu iawn-drefnu'ch gwybodaeth,
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/116
Gwedd