Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWERSI I SGRIFENWYR A SIARADWYR IEUAINC

ANNWYL DDISGYBLION,

Talm o amser yn ôl dinoethais a chywirais liaws o ymadroddion anghymreigaidd a welswn ac a glywswn. Ag arddull yr ymdriniaf ychydig y waith hon.

Gwybyddwch y dichon i'ch arddull fod yn wrthun, er i'ch geiriau fod yn gymeradwy, ac er i'ch ymadroddion fod yn Gymreigaidd. Ni chanmolwn nemor arnoch pe dywedwn yn unig fod gennych Gymraeg da, neu Saesneg da; am fod yn hawdd cael hyd i eiriau a phriodebion mewn geiriadur a gramadeg. Ond rhown glod mawr ichwi pe dywedwn fod gennych arddull da; canys byddwn wrth hynny yn rhoi ar ddeall fod gennych ragoriaethau meddyliol cynhenid a chyraeddedig, nad ŷnt gan y rhan fwyaf. Pan na bo iaith ddim ond math o wisg symudliw o amgylch rhith o feddwl, nid cymwys ei galw'n arddull. Rhaid iddi fod yn hytrach megis corff, sy'n cyd-hanfod, yn cyd-fod, yn cyd-dyfu, ac yn cyd-oberu â'r enaid. Yn wir, bu Buffon yn hyfach na Wordsworth, canys dywedodd, "Y dull, y dyn yw."