Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw am ei Gymraeg. Y mae gan y Ffrancwyr fwy o sgrifenwyr medrus nag sy gan un genedl arall; er hynny, gan ychydig ohonynt y mae arddull, a hynny am fod i'w hiaith hwy arddull. Po fwyaf diarddull y bo iaith gwlad, hawsaf oll yw i bobl y wlad honno sgrifennu mewn arddull neilltuol. Diolchodd un awdur Ellmynig am fod yr Ellmyneg heb arddull ("Die Deutsche Sprache hat der Himmel sei dafür gepriesen-keinen Styl, sondern alle mögliche Freiheit"). Y mae'n rhyfedd na fyddai gan chwaneg o sgrifenwyr Cymraeg arddull, a'u hiaith hwythau mor ddiarddull: ac nid oes achos iddynt hwy, fel Carlyle, redeg yn y gwddf i amau eu hiaith, a throseddu ei rheolau, er mwyn sgrifennu'n wahanol i'w cydwladwyr, ac yn debyg i ryw Richter estronol. Yn wir, y rhai sy'n cadw deddfau'r Gymraeg fanylaf sy'n sgrifennu ryddaf, a hwynt-hwy sy'n sgrifennu annhebycaf i'w gilydd. Y mae i'r Saesneg hefyd ei harddull, er nad i'r un mesur â'r Ffrangeg. Iaith unffurf, anhyblyg yw hithau; ac y mae'n rhyfedd pa fodd y medrodd Shakespeare ac ychydig eraill ystumio digon arni i'w chymhwyso i fynegi eu meddyliau a'u teimladau. Y mae chwaredau'r Sais Shakespeare, a llythyrau'r Ffrancwr Pascal, yn profi bod awen (genius) yn gallu gorfod ar waelder iaith. Pa