orchest a wnâi Cymro pe buasai ganddo feddwl un o'r ddau hyn? Neu pa orchest a wnâi'r ddau hyn pe buasai ganddynt iaith ystwyth o fath y Sbaeneg, yr Italeg, yr Ellmyneg, neu'r Gymraeg? "Y Gymraeg!" meddwch. Ie, y Gymraeg; canys gellir profi, cyn hawsed ag y gellir profi y gwna dau a dau bedwar, ei bod hi, o ran ystwythder, yn rhagori ar y tair iaith a enwais gyda hi. Ac os y hi ydyw'r iaith ystwythaf o'r ieithoedd gwybyddus, yna y hi ydyw'r iaith fanylaf—yng ngenau meddyliwr manwl, bid sicr; canys y mae manylder yn cydfyned ag ystwythder, ie, yn gorffwys arno.
Gan fy mod yn addysgu megis mewn dosbarth, ac nid mewn cynulleidfa, y mae'n rhydd imi wyro ychydig ymhellach oddi ar ganol fy llwybr, er mwyn gwneud y sylw ymarferol hwn:—Wrth ystyried teithi'r Gymraeg, a theithi meddwl y rhai sy'n ei siarad, yr wyf yn credu y byddai'n haws i'r Cymry ragori fel athronyddion nag fel beirdd. Ond rhaid addef bod un peth yn ôl iddynt tuag at fod yn athronyddion gwych, sef y gallu i gymryd poen. Felly, er mwyn ymenwogi, heb boen a heb ddysg, y maent hwy yn myned yn feirdd, neu'n hytrach yn brydyddion, gan ganu i'w cariadon ac i'r lleuad! Ceisiodd Henry Taine