Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei Littérature Anglaise ddangos paham na fagodd y Saeson neb o'r math hwnnw o athronyddion yr ydys yn eu galw'n fetaffysegwyr. Diau mai'r rheswm a roes ef ydyw'r un cryfaf; ond nid rheswm gwan fuasai hyn chwaith, sef nad yw iaith y Saeson ddim yn ddigon manwl i alluogi dyn i draethu, na hyd yn oed i synio'n olau, am y pethau a alwai'r hen Gymry yn el ac elf. Ond nid yw'r diffyg hwnnw ar y Gymraeg, pa ddiffyg bynnag arall a fo arni.

Dychwelaf yn awr at y peth y gwyrais oddi wrtho. Y mae arddull da o ran yn ddawn, ac o ran yn gaffaeliad. Dir yw fod llawer math o arddull da; canys bydd pobl yn sôn am arddull Junius, arddull Swift, arddull Bunyan, ac arddull Hooker. Er hynny, y mae rhai teithi cyffredinol y sy'n gweddu i bob math o arddull, megis coethder, manylder, eglurder, priodoldeb, a naturioldeb. Y mae rheolau gramadeg yn neilltuol ac yn bendant, ac am hynny yn hawdd eu hamgyffred a'u cadw; ond ni ellir amgyffred rheolau chwaeth heb feddu chwaeth. O ba herwydd, y mae'n anodd mynegi'n benodol pa fodd y gellwch fod yn goeth, neu'n briodol, neu'n naturiol eich arddull. Bydd y cyngor hwn, ond odid, yn fuddiolach na rheol i chwi y sy'n ieuanc:—Dyfal ddarllenwch yr hen sgrifen-