Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig air cymwys, bydd gorfod arnynt ymfoddloni ar amryw o eiriau anghymwys. Na'ch temtier chwaith i bentyrru cyffelybiaethau, megis "cof fel uffern," "safn fel dôr dragwyddoldeb," "yn ddiffaith a digysgod fel traeth y tragwyddol fyd." Nid yw "feliau" o'r fath yn ddim amgen na chydenwau a goreiriau gorgryf i guddio gwendid meddyliol. Nid rhaid wrth ddim awen i lunio cant ohonynt mewn munud awr.

Heblaw hynny, fe'ch ceidw'r teimlad o briodoldeb rhag arferyd y cast hwn: sef traws-gyfleu geiriau heb achos, a heb ddiben amgenach na gyrru syndod ar annoethion. Gellwch fod yn "ddoniol" odiaeth heb alw'r Werddon yn " Werdd Ynys," a byd arall yn "arall fyd."

Dylai pob gair a arferoch fod fel saeth a ollynger oddi ar fwa un celfydd, ac nid yn farcutan papur a gyhwfaner yn yr awyr i ddifyrru plant. Y mae grym yn y gair a ddyweder i berwyl, pa un bynnag ai o'r nef ai o'r ddaear y byddo; canys "efe a wna yr hyn a fynnoch, ac a lwydda yn y peth yr anfonasoch ef o'i blegid."

ALLAN O'R "Geninen", IONAWR 1903.