Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn y Dywysogaeth ar hyn o bryd dri math o Gymraeg, sef (1) Cymraeg darllenwyr y Beibl a'r hen lyfrau, (2) Cymraeg darllenwyr y newyddiaduron a llyfrau diweddar, ac yn (3) Cymraeg Wesleaidd, sydd yn fath o Gymraeg "gneud," ac yn bur wahanol ei sŵn a'i sylwedd i Gymraeg cyffredin. Pan oeddwn yn fachgen, mi a feddyliwn mai rhyw iaith gyfrin o fath ffregod yr Aifftwys a'r Seiri Rhyddion oedd y Cymraeg hwn,[1] a'i fod wedi ei arfaethu i guddio athrawiaethau Mr. Wesley oddi wrth y byd (Cymreig) deallus, a'u datguddio i'r rhai bychain etholedig. Ond pan euthum yn ŵr, deellais nad oedd y brodyr Wesleaidd ddim yn credu eu bod hwy na neb arall wedi eu hethol yn ddiamodol; eu bod hwy yn anad un cyfundeb arall â'u hwyneb tuag at y byd, yn bawb ac yn bopeth, ac na buasai ddim yn waeth ganddynt pe buasai holl Galfiniaid Cymru yn deall ac yn derbyn eu hathrawiaethau—tan yr amod eu bod yn dysgu eu Cymraeg gwneuthur. Fe ddywedir wrthyf i fod siaradwyr y Cymraeg hwn yn deall ei gilydd yn rhyfedd iawn; neu o'r hyn lleiaf yn meddwl eu bod; ond gan nad wyf i

  1. Benywol ydyw "Cymraeg" pan fo'n golygu'r iaith; eithr gwrywol ydyw'r gair pan fo'n golygu math neilltuol o Gymraeg.E. ap I.