yn eu deall, ni chynigiaf droi'r enghreifftiau a yrrwyd imi o'u Cymraeg hwy i Gymraeg cynefin. Y mae'n dda gennyf dystiolaethu bod y Cymraeg hwn yn darfod o'r tir fel y mae dynion yn myned yn gallach ac yn ddysgedicach. Heblaw hynny, y mae gorfod i bobl yn y dyddiau hyn fod mor brysur fel y mae cyn gased ganddynt roddi amser i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwael ag i ymegnïo i ddysgu Cymraeg gwych. Y maent yn teimlo y gallant siarad ac ysgrifennu'n llawn digon gwrthun heb geisio.
Am Gymraeg y rhan fwyaf o'r newyddiaduron, yr wyf wedi llwyddo erbyn hyn i'w ddeall yn burion, ac os myn y cyffredin hefyd ddysgu ddeall mewn agos cyn lleied o amser ag a fyddai'n angenrheidiol iddynt i ddehongli'r Gododdin, mi a ddangosaf iddynt y ffordd:—Yn gyntaf oll, tynner allan yr holl eiriau llanw a'r holl ymadroddion chwyddedig; ac os bydd ar ôl hynny ryw nifer o eiriau'n aros ar y papur, troer hwynt o air i air, ac o sillaf i sillaf, i'r Saesneg. Hyn heb newid dim ar drefn y geiriau a wna Saesneg gweddol. Yna troer yr ymadroddion drachefn i'r Gymraeg yn ôl deddfau ac anian yr iaith. Fe welir oddi wrth hyn mai'r cwbl sy'n angenrheidiol tuag