y Bwrdd Masnach"; a Gweinydd y Llynges, yn lle "Prif Arglwydd y Morlys "? Y mae'r enwau hyn yn gymaint haws i'w deall, i'w cofio, ac i'w llefaru, fel y perid hwylustod i laweroedd, ac na pherid rhwystr i neb, ped arferid hwynt yn lle'r rhai arferol. Y mae gennyf i bob dyledus barch i hen arfer gyffredinol, ond nid i arfer ddrwg nad yw hi na hen na chyffredinol.
Ond beiau dybryd yn erbyn anian yr iaith ymhob cyfnod arni, ac nid beiau maddeuadwy y gellir dwyn drostynt awdurdod geiriaduron a gramadegau diweddar, yr wyf yn bwriadu eu dinoethi a'u cywiro, canys nid gwiw ymdroi i hidlo gwybed pan fo cymaint o lyncu camelod. . .
I gyfeillion y mae gorfod arnynt wrth eu swydd ddarllen papureuach a llyfreuach diweddar y mae arnaf ddiolch am gasglu'r rhan fwyaf o'r ymadroddion yr ydys yn eu cywiro. Y mae rhai ohonynt mor wrthun fel y'm sarhawn fy hun, a darllenwyr "Y "GENINEN"" hefyd, pe gwnawn fwy na'u cyhoeddi er mwyn peri syndod. Cymerer y rhai hyn yn enghreifftiau:
Yr oedd [ef] wedi dweud y gallai gwrthryfel fod yn gyfiawnhaol mewn achos tebygol o ormes.