Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I atal yn y dyfodol ychwanegiad o anghenraid o gapelau.

Addefai y diffynnydd iddi gyhoeddi yr athrod haeredig, ond pleidiai gyfiawnhad.

Y datblygiad diweddaf yn ngwaith y gymdeithas hon ydyw sefydliad clwb.

Y mae Mr. Jones yn edrych arno ei hun fel math o ferthyr argyhoeddiadau cydwybodol parthed y cwestiwn duwinyddol o dragywyddol gosb.

Bu gweinidog yr eglwys yn foddion trosglwyddiad dymuniad i Mr. Jones am iddo ar unwaith ymddiswyddo.

Un o'r pethau mwyaf eithafol ddigywilydd a digydwybod.

Polisi y parti ddylai fod. . .

Yr ydym yn llafurio dan anhawster.

"Y mae gennym lawer o broblems i'w solvio—Oes, y mae, ond ystyriwch, fy nyn bach i, ei bod yn anos "solvio problems" hyd yn oed, na throi'r ddau air i'r Gymraeg.

Efallai fod ychydig o'r ymadroddion sydd isod bron cyn wrthuned â'r rhai sydd uchod; ond gan fy mod yn tybied nad ydynt hwy mor anarferol, y mae mwy o reswm am eu cywiro. Er mwyn cyfleustra yr wyf yn dosbarthu'r holl eiriau a'r ymadroddion sydd yn awr o'm blaen o dan wahanol bennau a fwriedir i ddangos y bai amlycaf sydd ar bob enghraifft, ac nid pob bai. Canys mi a