Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymerwn fwy na'm rhan o'r "GENINEN" pe gosodwn frawddeg ag arni chwaneg nag un bai o dan chwaneg nag un pen.

1.—Rhoi enwau Saesneg, neu ynteu Seisnigaidd, ar leoedd Cymreig a lleoedd, etc., tramorol, megis:

Bridgend yn lle Pen y Bont; Menai Bridge yn lle Porth Aethwy; Greenfield yn lle Maes Glas; South Stack yn lle Ynys Lawd; Skerries yn lle Moelrhon; Ponkey yn lle y Ponciau; Ruabon yn lle Rhiwabon; Spire a Rhine yn lle'r ffurfiau Ellmyneg a mwy Cymreigaidd, Speier a Rhein; Danube yn lle Donaw; yr Appennines yn lle'r Apeninnau; Crete yn lle Creta; Belgium yn lle Belg; Norway yn lle Norwy.

2.—Cyfuno geiriau gwahanol, ac felly roi achos i'r Saeson ac i Gymry dynwaredol gamgyfleu'r acen, megis:

Penybont (a seinir gan lawer yn Penni-bont) yn lle Pen y Bont,[1] neu Ben-y-bont; Cwmyglo yn lle Cwm-y-glo; a channoedd o enwau eraill.

3.—Peidio ag arfer y cyfenw neilltuol y o flaen enw y bydd ef yn ei benodoli, ac yn newid ei ffurf, megis:

  1. Dyma'r ffordd y rhennir enwau lleoedd cyfansawdd ar orsafoedd y rheilffyrdd yn Iwerddon y blynyddoedd diwethaf hyn.—GOL.