Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANERCHIAD AR GANIADAETH

GYFEILLION,

Y mae ynof un cymhwyster arbennig i siarad mewn cyfarfod o'r fath yma, sef bod fy ngwybodaeth am gerddoriaeth mor fechan fel na fedrwn i siarad yn faith ar y pwnc, ped ewyllysiwn; ac oblegid hynny, y mae'n debygol, y gofynnwyd imi'ch annerch.

Ond er nad wyf yn gerddor, yr wyf yn dipyn o lenor; ac efallai y gall llenor sydd heb fod yn gerddor ddweud un neu ddau o bethau ynghylch canu a haeddai gael eu hystyried gan gerddorion, yn enwedig[1] gan gerddorion sydd heb fod yn llenorion hefyd.

Meddylier, er enghraifft, am amser mewn canu. Onid ar bwys ei wybodaeth lenyddol y gall cerddor farnu pa un ai'n chwyrn ai'n araf y dylid canu geiriau neilltuol mewn iaith neilltuol? Fe gytunir bod y Cymry hyd yn ddiweddar yn canu popeth yn rhy araf yn araf hyd at fod yn hwyrdrwm; ond mi fyddaf i'n meddwl, a golygu'r peth oddi

  1. Yn y llsgr. ceir geiriau yn enwedig yn sgrifenedig tros ben y geiriau o leiaf, ond nid yw'r naill na'r llall wedi eu croesi allan. Gol.