Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar safle lenyddol, fod ambell gynulleidfa Gymreig yn y dyddiau hyn yn mynd i'r eithaf cyferbyniol trwy ganu'n rhy gyflym. Fel rheol, fe arweinir y cynulleidfaoedd hynny gan ddynion ifainc sy wedi ymroi i ganu'n unig, ac wedi ymwadu â phob chwant i feddu gwybodaeth gyffredinol. O achos hynny, nid ydynt hwy ddim yn alluog i gyfaddasu amser y dôn i natur y geiriau, heb sôn am ei chyfaddasu i anian cenedl, ac i anian iaith cenedl. Canu y maent hwy wrth glociau Lloegr. English time ydyw eu safon. Pe baent hwy gystal llenorion â llawer o'r cerddorion sydd yma heddiw, hwy a wybyddent ei bod yn amhriodol i'r Cymry ganu cyn gyflymed â'r Saeson, ac yn amhriodol i'r Saeson ganu cyn arafed â'r Cymry; a hynny oblegid dau reswm, sef oblegid y gwahaniaeth sy rhwng cymeriad y ddwy genedl, a'r gwahaniaeth sy rhwng iaith y ddwy. Ni oddef geiriau Saesneg gymryd eu llusgo a'u troelli fel y gwna geiriau Cymraeg, o achos nad yw'r llafarogion sydd ynddynt mor bur, mor agored, ac mor hirllaes â llafarogion y Gymraeg—mewn gair, o achos nad ydynt hwy mor Italaidd eu sain. Camu'n frysiog dros y llafarogion, a sangu'n ysgafn ar frig y cytseiniaid, fel iâr yn sangu ar farwor, y bydd y Saeson wrth siarad. Siarad yn gyflym ac nid yn