groyw ydyw eu pwnc mawr hwy, a dyna'r achos paham y maent hwy'n taflu'r acen mor agos i ddechrau'r geiriau. Y mae hyn yn gwneud eu hiaith yn fwy crisp, fel y dyweder, ac felly yn un well i ddibenion masnachol nag un iaith arall, ac yn well ond odid i ddibenion ymddiddanol hefyd nag un iaith oddieithr y Ffrangeg. Ond po orau y bo iaith mewn ystyr masnachol ac ymddiddanol, gwaelaf oll ydyw mewn ystyr cerddorol a barddonol.
Pan oeddwn i'n dweud ei bod yn amhriodol canu geiriau Cymraeg mor gyflym â geiriau Saesneg, mi allaswn anturio mynd ymhellach a dweud ar bwys yr un rhesymau ei bod yn amhriodol, ie, yn wir yn anodd, canu geiriau yn llediaith Gogleddbarth Cymru mor gyflym â rhai yn llediaith y Deheubarth.
Nid oddi ar ragfarn yr ydwyf yn dweud bod y Gymraeg yn fwy soniarus a chanadwy o lawer iawn na'r Saesneg, canys fe ellid profi hynny trwy dystiolaethau'r seinegwyr gorau yn Ewrop. Y mae safon i farnu gwerth iaith a natur seiniau, fel agos popeth arall. Y mae pob Sais unieithog, ac ambell eneth o Gymraes hefyd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach na'r hen Gymraeg, a bod ynddi lai o seiniau afrywiog. Camsyniad dybryd! Y mae rhai