ohonoch, yn ddiamau, wedi darllen The Science of Language, gan Max Müller, ac yn cofio ond odid ei fod o'n dosbarthu'r Saesneg a'r Wyddeleg ymhlith yr ieithoedd cras, gwrywaidd, ac yn dosbarthu'r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd benywaidd. Yn ôl Max Müller, un o'r beiau pennaf ar y Gymraeg ydyw ei bod yn rhy neis, ac yn rhy lathraidd i fod yn iaith gref. Yr ch ydyw'r unig lythyren gras sydd ynddi, ac ni chyhuddwn i mo'r merched ifainc yma o fod yn rhy gymhenllyd pe baent hwy'n seinio honno'n llai gyddfol, yn enwedig wrth ganu. Ond yr ydwyf i'n methu dirnad beth sy gan rai ohonynt yn erbyn y llythyren u. I ac nid u a ddaeth y prynhawn yma i'm clustiau i o enau amryw. Y mae colli sain o iaith yn golled fawr hyd yn oed mewn ystyr cerddorol, os credir bod amrywiaeth llafar seiniau yn fanteisiol i ganiadaeth. Y mae sain yr u yn dda ynddi ei hun, ac y mae iddi le amlwg ac anrhydeddus yn y Ffrangeg a'r Ellmyneg a llawer iaith arall.[1] Os oes ar rai ohonoch gywilydd dangos eich bod yn medru holl
- ↑ Gwyddai Emrys yn burion mai siarad yn fras yr oedd wrth gymharu'r Gymraeg â'r seiniau Ffrangeg ac Ellmyneg hyn; oblegid yn ei adolygiad yn Y "Faner", Mawrth 3, 1886, ar ramadeg Cymraeg Ernst Sattler, fe sonia am y gwahaniaeth rhyngddynt, ac yn wir fe ddywed yno am yr # Gymraeg ogleddol ei bod yn nes i'r i nag i'r i Ellmyneg.—Gol.