Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

seiniau iaith eich gwlad, da chwi, seiniwch yr u ynteu, er mwyn peri i Saeson feddwl eich bod yn medru y French neu y German alphabet. Dyna reswm a ddylai fod yn gymeradwy hyd yn oed gan ferched y boarding schools. Os oes yma ryw eneth a ddywed na fedr hi ddim seinio'r u, mi a'i dysgaf yn rhad i wneud hynny mewn hanner awr os nad oes rhyw ddiffyg naturiol ar ei pheiriannau llafar.

Peidied neb â meddwl fy mod yn ergydio yrŵan at gyd-daleithwyr Mr. Lumley, oblegid fe all pobl y Deheudir eu hamddiffyn eu hunain. Nid wedi cefnu ar sain yr u y maent hwy, ond heb ddechrau ei mabwysiadu, o leiaf yn y cysylltiadau yr ydym ni yn ei harfer. A heblaw hynny, y mae'r sain a roddant hwy i'r u, er ei meined, yn wahanol ddeg o raddau i sain syml yr i, peth na ŵyr dynwaredwyr y Gogledd mono. Ni chlywais i gymaint ag un dynwaredwr o bregethwr, na dynwaredwr o ganwr o'r Gogledd, a fedrai seinio'r u fel Deheuwr.

Nid oes un sain yn y Gymraeg mor annymunol fel y dylid ei halltudio ohoni. Cymerer y Gymraeg fel y mae hi, gyda'r ch a'r cwbl, y mae hi'n un o'r ieithoedd mwyaf cyfaddas i enau cantorion. Y mae gan gantorion Seisnig achos i droi i'r Italeg,