Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond nid oes gan gantorion Cymreig ddim achosdim achos ieithyddol, beth bynnag—i ganu Saesneg mewn cyngherddau yng Nghymru, am fod ganddynt hwy iaith sy gymaint mwy canadwy na'r Saesneg ag ydyw'r Italeg na'r Gymraeg.

Mi adwaen i Gymro ieuanc a fu mewn ysgol ar y Cyfandir, yn yr hon yr oedd amryw o'r ysgolorion yn gantorion gwych, ac er nad oedd y Cymro hwnnw yn fwy o gerddor nag yn well lleisiwr na minnau, eto pan fyddai cyfarfod adloniadol yn y gwyliau, ac y gofynnid i wŷr ifainc ganu bob un yn ei iaith ei hun, y Cymro fyddai seren cyfarfod o'r fath bob amser (neu, gan mai person yn y rhyw wrywol oedd o, efallai mai dweud a ddylaswn mai efô oedd haul y cyfarfod), nid oblegid ei fod agos cystal lleisiwr â'r Ellmyn a'r Hwngariaid ac eraill, ond oblegid fod sŵn mwy hoff yr iaith Gymraeg, a sain mwy nefol yr hen alawon Cymreig, yn swyno yn gwirioni'r gwrandawyr.

Ar un peth arall y sylwaf, a hynny mewn ychydig eiriau, sef ar y modd y dangosir gwahanol deimladau mewn canu. Bydd ambell arweinydd canu, wrth geisio dangos ystyr gwahanol linellau mewn pennill, yn symud mor ddisymwth o'r lleddf i'r llon fel y bydd calon dyn gwan fel fi yn