dychlamu gan ddychryn. Pam nad efelychir y plentyn bach, sydd yn fynych yn dechrau gwenu cyn gorffen wylo, heb gymryd hamdden i sychu'r dagrau oddi ar ei ruddiau? I fod yn naturiol fe ddylai cantorion, a siaradwyr hefyd o ran hynny, symud o'r naill deimlad i'r llall, megis o dan ddylanwad y teimlad oedd yn eu meddiannu gyntaf.
O'r ddau, y mae'n well gennyf i glywed canu pob rhyw beth mewn tôn hanner lleddf yn ôl dull yr hen bobl na'r symudiadau a'r ysgytiadau annaturiol sy'n dangos yn lle cuddio celfyddyd. Fel y rhan fwyaf o'r hen genhedloedd, y mae'r Cymry yn bur dueddol i gymysgu rhyw gymaint o'r lleddf â'r pethau mwyaf llon. Rhaid iddynt gael gorfoleddu mewn tôn hanner wylofus. Ac y mae'n ddiamau gennyfi y cânt gyfleustra i ddangos eu hoffter tuag at y lleddf wrth ganu'r anthem nefol mewn byd arall: "Ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed." Wel, gobeithio na chaiff neb sydd yma achos i beidio â chanu nac yn y byd hwn nac yn y byd a ddaw.