Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amdano, ond pan fo eisiau nodi'n eglur y rhyw a'r rhif, rhaid arferyd dau neu dri ohonynt. Ond yn y Ffrangeg, yr ydys yn nodi'r rhif a'r rhyw yn nherfyniad y cyfraniad, a hynny heb hwyhau'r sain. Fel sgrifennwr craff a chelfydd y mae Courier wedi canfod y rhagoriaeth hwn yn ei iaith; a chan fod yn dra hoff ganddo ymadroddion cryno, y mae'n arferyd y ffurf gyfraniadol yn bur fynych. Oherwydd hyn, pa le bynnag y bydd Courier yn fwyaf cryno, yno y rhaid i'r cyfieithydd Cymraeg fod yn fwyaf amleiriog: hynyna fel enghraifft.

O bob iaith, y Saesneg yw'r iaith y mae'n hawsaf cyfieithu iddi; am ei bod hi wedi dwyn lliaws o'i geiriau a'i phriodebion oddi ar genhedloedd eraill. Ond ychydig o'r naill na'r llall a fenthyciodd hi gan y Cymry. Am hynny, anodd iawn yw cyfieithu Cymraeg pur i'r Saesneg. Po fwyaf Cymreigaidd fo'r iaith, mwyaf i gyd fydd y cam a gaiff wrth ei throi i'r Saesneg. Yr un ffunud, meistrolaeth Courier ar Ffrangeg cwbl Ffrengig sy'n ei wneud ar unwaith mor ddifyr i'w ddarllen yn ei iaith ei hun, ac mor anodd ei gyfieithu i iaith arall.

Anfynych y byddys yn cyhuddo Ffrancwr o sgrifennu'n dywyll; ond y mae rhai yn cyhuddo Paul-Louis o sgrifennu felly. Gan ei fod yn