sgrifennwr mor awgrymog a byreiriog, ni all na bo rhyw gymaint o'i feddwl yn aros yn guddiedig oddi wrth rai; ond y mae digon o feddwl hyd yn oed ar wyneb ei eiriau i roddi mwynhad i'r darllenydd mwyaf cyffredin. Nid yw goleuni ymadrodd gwir ffraeth yn tywynnu i gyd ar unwaith, hyd yn oed i feddwl y darllenydd craffaf.
Gŵr hynod yn unig y cyfrifid Courier yn ei ddydd; ond heddiw y mae'n ŵr enwog; ac yn ôl pob tebyg, yn fwy enwog yr â. Y mae'r cyfenwad inimitable wedi glynu mor dynn wrth enw Paul-Louis Courier ag y mae all-accomplished wrth Pascal, judicious wrth Hooker, a venerable wrth Bede.
I Pascal, o bawb o'r Ffrancwyr, y mae Courier debycaf o ran ei ddull o feddwl ac ymadroddi. Y mae, fel yntau, yn nodedig am ei ŵreidd-dra, ei wreiddiolder, a'i wawdiaith; am fin, bywiogrwydd a beichiogrwydd ei frawddegau. Er hynny, y mae'r annhebygrwydd rhyngddynt yn amlycach o lawer na'r tebygrwydd. Y maent yn annhebyg hyd yn oed yn y pethau y maent yn ymdebygu fwyaf. Courier yw'r mwyaf ysmala, ond Pascal yw'r mwyaf urddasol. Dirmyg sy dan wawdiaith Courier, ond digllonedd a difrifoldeb sy dan wawdiaith Pascal. Courier sy'n tynnu mwyaf o