waed, ond Pascal sy'n peri mwyaf o gleisiau. Pascal yw'r sgrifennwr llyfnaf, ond Courier yw'r un hoywaf. Er mai yn llyfrynnau y cyhoeddodd Pascal ei "Lythyrau at ŵr o'r wlad," ac er mai yn ffurf llythyrau a llyfrynnau y sgrifennodd Courier hefyd, eto ar ôl eu casglu ynghyd gwnaethant ddau waith yr ydys erbyn hyn yn eu cyfrif yn glasurol. "Y crach-awdur brwnt" y gelwid Courier gan y dosbarth llywodraethol. "Ysgentyn cellweirus, cablaidd," y galwai'r Iesuaid Pascal. Credai, neu o leiaf, cyhoeddai gelynion Pascal a Courier mai byrhoedlog fyddai cynhyrchion y naill a'r llall; ond byw ydynt eto, a byw fyddant tra bo byw'r Ffrangeg. Yr oedd yn y ddau gymaint o awen (genius) fel y gwnaethant bethau a oedd dros amser yn bethau dros byth, a phethau lleol yn bethau diddorol i bawb.
Ni wn i am un sgrifennwr yn sefyll yn gymaint ar ei ben ei hun â Paul-Louis Courier. Nid oes un ddalen o'i waith y gellid ei phriodoli i neb arall. Y syniadau, y teimladau, y rhagfarnau, a'r dulliau ymadrodd, delw eu hawdur sydd arnynt i gyd. Ac yr oedd y neilltuolrwydd hwn yn perthyn yn naturiol iddo ef. Y mae'n sgrifennu mor hynod, yn ei ffordd, â Carlyle, a hynny heb beidio â bod yn naturiol a dirodres. Nid arddull wneuthur mo'i