blynyddoedd yn bennaeth ar fintai o fagnelwyr yn y Fyddin; ond ni ragorodd fel milwr, am fod yn gas ganddo ryfel. Darllen llyfrau Groegaidd oedd ei hoff waith ef yn y maes: a phan fyddai yn Rhufain, Ffloren, Napel, neu Vienna, treulio'i ddyddiau a wnâi mewn llyfrdai i chwilio am hen sgrifeniadau Groegaidd.
Bywyd helbulus a gafodd. Cafodd ei ddirwyo dro ar ôl tro, a'i daflu fwy nag unwaith i garchar; a thra oedd yno, byddai'n paratoi rhyw lith a'i dygai yno drachefn. Costiodd ei annibyniaeth yn ddrud iddo. Nid oedd ei sgrifeniadau yn dwyn dim elw iddo. Cyhoeddai a lledaenai hwynt ar ei draul ei hun. Ond nid oedd ei elynion am fod yn hir yn ei ddyled. Ryw noson, ac ef eto ond dwy a deugain oed, fe'i saethwyd am ei boen.
Gan ei fod yn y Pamphlet des Pamphlets yn ei ddarlunio ac yn ei gyfiawnhau ei hun, gadawaf bellach iddo ef lefaru:
Sgrifennodd ataf fy nghyfaill Syr John Bickerstaff yr hyn yr ydwyf ar fedr ei gyfieithu ichwi yn union deg. Gŵr hynod yw hwnnw—athronwr, llenor gwych, a phleidiwr mawr i ddiwygiad, nid Seneddol yn unig, eithr cyffredinol hefyd; canys mynnai ef adlunio holl lywodraethau Ewrop, am na thâl yr orau ohonynt nemor, medd ef. Gŵr gweddol o gyfoeth ydyw, wrth