Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd, canys yr oedd ei le yn rhoi iddo'r gallu, oni buasai ddarfod ei fwrw allan.

Bu ef ar ôl hyn yn ymdeithio; a sgrifennodd ataf o Rufain fel hyn: Cymerwch eich beio, eich dyfarnu, eich carcharu; cymerwch eich crogi, ond cyhoeddwch eich barn. Dyletswydd yw hyn ac nid braint; canys y mae dyled ar bob un y bo barn ganddo i roi llafar iddi, er mwyn lles y lliaws. Y mae'r gwir yn bob peth i bawb. Pa beth bynnag a wyddoch y sy'n fuddiol, yn dda i bob dyn ei wybod, nid yw rydd ichwi gelu hynny yn ôl na rheswm na chydwybod. Dyn sgeler o'r mwyaf fuasai Jenner, y bufrechwr cyntaf, pe cadwasai ei gyfrinach am un awr; a chan nad oes neb heb gredu bod ei syniadau ei hun yn fuddiol, nid oes neb heb fod yn rhwymedig i'w mynegi a'u taenu trwy bob ffordd ddichonadwy iddo. Y mae llefaru yn dda, sgrifennu yn well, argraffu yn beth rhagorol. Syniad wedi ei draethu mewn ymadroddion cryno a golau, hefo thystiolaethau, prawfysgrifau, ac enghreifftiau, pamffled yw pan ei hargraffer; a'r weithred orau, yr wrolaf yn fynych, y gall dyn ei gwneuthur er mwyn y byd. Canys os da fydd eich syniad, ceir budd oddi wrtho; os drwg, fe'i cywirir, a cheir budd oddi wrtho fyth. Ond y camarferiad, meddwch; wfft i'r gair, meddaf i; y rhai a'i dyfeisiodd, hwynt—hwy sy'n camarfer y wasg, wrth argraffu'r hyn a fynnont, gan dwyllo a difenwi, ac atal dynion rhag gwrthateb. Y mae