ganddynt hwy eu rhesymau, dealler, am ddyrchafu eu llef yn erbyn pamffledau, llyfrynnau, a newyddiaduron. Y mae gennyf innau fy rhesymau; ac fe fynnwn pe cyhoeddai pawb yr hyn oll a synio ac a wypo. Yr un modd y gwaeddai'r Iesuaid yn erbyn Pascal; a diau y buasent yn ei alw yn bamffledwr, ond nid oedd y gair yn bod eto; am hynny fe'i galwasant yn ufferngi (tison d'enfer), yr un peth yn iaith penboethyn. Dyn a ddywedo'r gwir ac a gaffo wrandawiad y mae'r enw hwn bob amser yn ei arwyddo. Atebasant ei bamffled ef yn gyntaf oll trwy bamffledau eraill; wedyn trwy lettres de cachet, sef trwy dra-awdurdod, a thyciodd hyn iddynt yn llawer gwell. Dyma, gan hynny, yr ateb y byddai'n wiw gan yr Iesuaid a'r galluogion ei roi i bamffledau.
Gellid meddwl, hagen, wrth eu siarad, mai bychan o beth oedd hynny ganddynt; diystyru a wnaent y mân lythyrau, am nad oeddynt ar y gorau, meddent hwy, yn ddim amgen na chroesanaethau brwnt i ddifyrru munud o amser trwy athrod a gogan; ysgrifau diwerth, disylwedd, a ddarllenid yn y bore ac a anghofid erbyn yr hwyr; ar air, pethau annheilwng ohono ef, y fath ŵr, y fath lenor! Yr oedd yr awdur yn ei ddarostwng ei hun wrth dreulio'i amser a'i ddoniau i sgrifennu dalennau yn lle llyfrau, ac i droi pob peth yn gellwair, yn lle rhesymu yn ddifrifol; dyna'r edliwiad a ddygent yn ei erbyn,