DYFYNION O'R "PAMPHLET DES PAMPHLETS "
Tra oeddid yn fy holi yn y préfecture de police ynghylch fy enw, fy nghynenwau, a'm galwedigaeth, daeth un o'r presenolion ataf; ac er ei fod yn ddieithr a di-swydd, gofynnodd im yn gyfeillaidd a diddefod ai myfi oedd awdur rhyw bamffledau? Ymddifferais innau'n bybyr.
'Ha! Syr (meddai yntau wrthyf), yr ydych yn awenydd mawr—yr ydych yn ddihafal.'
Parodd yr ymadrodd hwn imi atgofio ffaith hanesiol bur anhysbys, a adroddaf ichwi megis rhwng cromfachau.
Yr oeddwn yn bwyta efo'm cydymaith Duroc, a oedd yn lletya y pryd hwnnw, eithr er ys ennyd bach, sylwch, yn ystafelloedd isaf hen dŷ hyll tros ben, yn ôl fy nhyb i, rhwng buarth a gardd. Yr oedd amryw ohonom wrth y bwrdd yn llawen ac yn brysur pan ddaeth i mewn, yn gwbl ddirybudd, ein camrad Bonaparte, perchennog newydd yr hen dŷ, a chyfaneddwr y llofft isaf. Fel cymydog yr oedd yn dyfod; ac fe'n synnodd y cyweithaster hwn yn gymaint fel na wyddai neb o'r gwesteion pa beth i'w wneud. Codasom oll, a gofynasom