'Pa beth sydd yn bod?' Parodd y gwron inni adeistedd. Nid oedd ef yn gyfryw gydymaith ag y gallech ddywedyd wrtho, Eistedd, a bwyta efo ni. Buasai hynny'n gweddu'n burion cyn prynu ohono'r hen dŷ. Yr oedd yn ein golygu o'i sefyll, ac yn cerdded yn ôl ac ymlaen, heb wybod yn iawn pa beth i'w ddywedyd.
'Ai artichokes sydd gennych yna?'
'Ie, gadlywydd.'
'Yr ydych chwi, Rapp, yn eu bwyta efog olew, onid ydych? '
'Ydwyf, gadlywydd.'
'A chwithau, Savary, efo sibr.[1] Efo halen y byddaf i yn eu bwyta.'
'Ha! gadlywydd!' meddai'r hwn a elwid y pryd hwnnw Savary, 'dyn mawr ydych chwi; yr ydych yn ddihafal.'
Adroddais yr hanesyn hwn fel y gweloch, fy nghyfeillion, ddarfod fy nhrin innau fel Bonaparte, a hynny am yr un rhesymau. Nid er dim yr oeddid yn gwenieithio i'r consul; a phan oedd y gŵr da hwn hefyd, efo'i eiriau teg, yn fy nghanmol mor anfeidrol nes peri imi yswilio, gan fy ngalw'n ddyn digymar ac aneiluniadwy, yr oedd ganddo ei ddiben, fel y
- ↑ Gair Emrys ap Iwan am 'saws.'—Gol.