Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedwyd wrthyf ar ôl hynny gan wŷr a'i hedwyn. Mynnai ef dynnu rhywbeth ohonof ar fedr fy nghanmol ar fy nhraul fy hun; ond ni wn a foddlonwyd ef. Ar ôl llawer o ymadroddion a llawer o holion, a atebais cystal ag y gellais, ef a ddywedodd wrthyf wrth ymadael:

'Syr, gwrandewch arnaf, credwch fi, arferwch eich awen fawr i wneud rhywbeth amgenach na phamffledau.'

Myfyriais ar hyn, a chofiais ddarfod yn flaenorol i Meistr de Broë, gŵr huawdl, brwd o blaid moesau da, fy nghynghori'n gyffelyb, mewn geiriau llai gwenieithus, ger bron y brawdlys. Gan droi ataf, a gwneud ysgogiad areithegol o'r gwychaf, ef a'm cyfarchodd fel hyn: Bamffledwr brwnt, etc.!' Ergyd taran—na, ergyd pastwn, ac ystyried arddull yr areithiwr, â'r hon y'm tarawodd i lawr yn anaele. Cododd y gair hwn yn fy erbyn y barnwyr, y tystion, y rheithwyr, y gynulleidfa; ie, ymddangosai fy amddiffynnwr ei hun wedi ei derfysgu. Fe'm condemniwyd ym marn pawb o'r munud y'm galwodd swyddog y brenin yn bamffledwr, ac ni allwn innau wadu na wneuthum yr hyn a elwir yn bamffled. Yr oeddwn felly yn bamffledwr yn ôl fy marn fy hun; ac wrth weld y dychryn a barodd y fath enw i'r presenolion, cythruddais a chywilyddiais.

Wedi myned allan oddi yno, cefais fy hun ar