NODIADAU DARLITH AR NODWEDDION
Y FFRANCWYR
Didwylledd yw amod yr Ellmyn—Bismark wedi drygu eu cymeriad—Gweithgarwch a myfyrdod yn nodweddion—Richter yn dweud mai'r Ellmyn piau llywodraeth yr awyr, am eu bod yn byw yn y cymylau—Bonhomie yr Ellmyn—La conversation comme talent n'existe qu'en France—Yn Ffrainc, astudio dynion yr ydys; yn yr Almaen, llyfrau.
Yn Lloegr fe gyfrifir pawb sydd yn werth llai na dwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn fwy neu lai tlawd, er y ceir llaweroedd o dlodion y ddwy fil yn edrych i lawr ar dlodion y ddau gant.
Gan nad yw tad o Ffrancwr, er y Chwyldroad, yn gadael y cwbl na'r rhan fwyaf o'i dda i'w fab hynaf, nid oes yn Ffrainc gynifer o diriogion a chyfoethogion mawr ag sydd yn Lloegr. Yno y mae tir ac arian wedi eu rhannu'n fwy cyfartal. Hyn yn peri bod yr hen balasau mawrion yn myned yn ddiddefnydd. Y ffaith bod gwladwyr Ffrainc yn byw ar eu tir eu hunain yn peri eu