borefwyd. Weithiau goffi a llaeth gyda dernyn o fara ynddo, neu heb fara. Te yn unig fel meddyginiaeth rhag yr annwyd a rhag y cnoi.
Fel y gwyddoch, ceir amryw fathau o fwyd yn y gwestai, er mwyn cyfarfod â chwaeth pob un a ddelo iddynt. Mewn tai preifat fe wyddys pa fwydydd sydd yn gymeradwy gan y teulu, ac am hynny bydd ynddynt hwy lai o amrywiaeth, a bydd y bwyd wedi ei goginio yn well nag mewn gwestai. Mewn gwirionedd, ni ŵyr neb pa mor ragorol y gall y Ffrancwyr goginio os na chafodd fwyd mewn tŷ preifat.
Gall gwraig i wladwr Ffrengig wneud cinio blasus gydag asgwrn ac ychydig o lysiau.
Gwin, wrth reswm, yw'r ddiod gyffredin oddieithr i forefwyd, ond y mae'r gwin cyffredin yn wannach hyd yn oed na diodydd dirwestol y wlad hon.
Llawer yn y wlad yn cymryd potes i'w borefwyd, a'r rhai sydd yn cymryd hwn yw'r bobl iachaf. Y borefwyd mawr, sef y borefwyd â fforch, rhwng 10 ac II ar gloch yw'r pryd trymaf yn Ffrainc. Y mae'r cinio, sy tua 6 ar gloch, yn bryd