feddyg yn Hamburg pa un ai'r Sais ai'r Ffrancwr oedd yn ei le. Y mae'r ddau'n cyfeiliorni, ebe hwnnw. Bwytewch gig dafad os bydd yn dygymod â chwi; onid e, na fwytewch ddim ohono. Wyddoch chi beth, doctor, ebe fi, yr ydych yn gwybod cymaint â minnau. Atolwg, pa faint yw'r tâl am atebiad mor ochelgar? Coron, os gwelwch yn dda, ebr yntau.
Oddieithr cig dafad, gellyg y ddaear, sef jerusalem artichokes, gwyfon gwyrddion, sef green gooseberries, ac ychydig bethau eraill, fe all y Ffrancwyr fwyta pob math o gigau, o lysiau, ac o ffrwythau, os byddant wedi eu coginio'n dda; a da oedd i'r Parisiaid yn amser y gwarchae ar Paris eu bod yn medru byw ar chwyn, ceffylau, cathod a llygod, ac anifeiliaid gwylltion y Jardin des Plantes.
Os nad yw Pabyddion Ffrainc yn rhoddi cymaint o amser â ninnau i grefydda ar y Sul, y maent yn rhoddi mwy o lawer yng nghorff wythnos; canys y mae'r rhai mwyaf defosiynol ohonynt yn codi'n blygeiniol iawn i fyned i wasanaeth yr offeren bob dydd. Y maent hefyd yn neilltuo rhywfaint o amser ar rannau o'r dydd i ddarllen a myfyrio,