go debyg ym Mhrydain hefyd er ys blynyddoedd bellach, ond eu bod yn llai golau ac yn llai agored yn y wlad hon, ac heb erddi cysgodol ynglŷn â hwynt. Ond er mor anghysurus ydynt o'u cymharu â rhai Ffrainc, y maent wedi gwneud a chadw mwy yn ddirwestwyr na mil o areithiau dirwestol.
Yr ydys, wrth reswm, yn yfed rhywbeth neu'i gilydd ym mhob café Ffrengig, ond er mwyn ymddiddan ac nid er mwyn yfed yr ydys yn myned i dŷ coffi; ac oherwydd eu bod yn ymgyfarfod mewn lleoedd o'r fath, y mae'r Ffrancwyr yn well ymddiddanwyr nag un genedl arall.
Y Ffrancwyr at ei gilydd mor uniaith â'r Saeson. Gan fod pob dyn dysgedig trwy Ewrop yn medru eu hiaith hwy, nid oeddynt hyd ar ôl rhyfel 1871 yn gweld achos iddynt hwy ddysgu un iaith arall.
The interval between a French peasant and a Kentish labourer is enormous.
Ffrainc gymaint bedair gwaith â Lloegr, ac agos gymaint ddwywaith â Phrydain ac Iwerddon; er hynny, nid yw ei phoblogaeth gymaint.