Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os yw rhai o ferched Paris a Bordeaux yn newid eu dull o wisgo bob mis, y mae pobl y wlad yn ymgadw at yr un dull yn gaethach o lawer na Chymry Lleyn ac Eifionnydd.

Y Ffrancwr naill ai yn dilyn ei reswm ei hun, neu ynteu yn ymostwng i awdurdod eglwysig; ac y mae hynny yn ei wneud naill ai yn anffyddiwr neu yn Babydd.

Yr offeiriaid Pabaidd yn bur debyg i ninnau, bregethwyr y Methodistiaid—rhai yn wych, rhai yn wael, a llawer yn weddol. Culni meddyliol yw'r pechod parotaf i'w hamgylchu hwy a ninnau. Yn yr Almaen y mae'r offeiriaid yn fwy rhyddfrydig. At ei gilydd, y mae offeiriaid Ffrainc, a phob gwlad arall o ran hynny, yn fwy ymwadol o lawer na phregethwyr Cymru. Gan eu bod oll yn ddibriod, ac yn byw i'r eglwys yn unig, nid oes fawr o demtasiwn iddynt hwy gasglu a chadw arian. Am yr un rheswm y maent yn gofyn llai o arian i'w cadw. Y mae cyflog ein pregethwyr mwyaf poblogaidd ni yn fwy seithwaith, os nad ddengwaith, na chyflog yr offeiriad Catholig, ac yn fwy ddwywaith na chyflog esgob. Fe fyddai'r gyflog yr ydym ni'r Methodistiaid yn ei rhoddi i