Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

benderfynu ei phriodi fe fydd yn rhydd iddo ei gweled ac ymddiddan â hi. Wrth reswm, fe fydd y mab wedi ymholi yn ddyfal ynghylch y ferch cyn anturio myned mor bell â hyn.

Chwedl garwriaethol:—Gofynnodd dyn ifanc unwaith i Sais oedd wedi priodi Ffrances, ac wedi byw hanner ei oes yn Ffrainc, fyned at rieni parchus i ofyn eu merch yn wraig iddo. Aeth yntau a dywedodd

neges wrth y fam. Atebodd hithau yn rhwydd y câi y carwr ei merch ymhen dwy flynedd, os na ddôi rhywun cyfoethocach a boneddicach i'w gynnig ei hun iddi yn y cyfamser. Gan fod y carwr yn 32 oed, yr oedd yn ormod ganddo aros hyd hynny. Fe briododd ferch arall cyn pen mis, a gwnaeth hon iddo wraig ragorol, ac y mae'r ddau yn byw yn dra dedwydd.

Ni bydd un ferch ieuanc dan 25 oed yn myned ei hunan i'r farchnad nac unlle arall heb fod ei gweinyddes neu ryw berthynas gyda hi. Dealler bod merch ieuanc dros 25 oed yn hen ferch yn Ffrainc. Merched ieuainc Ffrainc yn gwbl wahanol i'r darluniau a wneir ohonynt yn y wlad hon; canys fe'u megir yn llawer caethach. Y maent yn gweithio yn y tŷ o fore hyd hwyr oddieithr pan