wyr. Addefir eich bod yn bur gyfarwydd ag esboniadau ar y Beibl, ond y mae'n amlwg wrth eich iaith aflêr ac anystwyth eich bod yn ddieithr iawn i'r Beibl ei hun. Pe darllenech ef yn fynych ac yn fanwl, chwi ysgrifennech Gymraeg yn weddol dda, ar eich gwaethaf. Ai tybed fod modd ichwi gael gafael ar feddyliau'r Beibl heb gyffwrdd â'i eiriau? A ydych yn medru ymhyfrydu yn ei wirionedd heb gael eich goglais gan ei dlysni llenyddol? Ni choeliaf mo hynny, hyd yn oed os dywedir wrthyf fod eich croen cyn dewed â chroen y behemoth. Ond, meddwch wrthyf, "I ba beth yr ymdrafferthwn i wneud gwaith gwych, os cawn gymaint o arian a chlod am wneud gwaith gwael? Pe siaradem yn gryno, byddai'n rhaid inni wthio cnawd ac esgyrn hanner cant o'r pregethau sydd gennym yn awr i groen un. Ped ysgrifennem yn olau, nid ymddangosai'n hysgrifeniadau mor ddwfn o lawer. Pe traethem ein meddyliau'n hoyw, nid ystyrid hwynt mor drymion; canys y mae hi'n dyb gyffredin fod cysylltiad agos rhwng y trymllyd a'r trwm. Pe rhoddem fin main, disglair, ar ein brawddegau, ni chyfrifid hwynt gan y rhan fwyaf mor bwysig, oblegid cyfrifa llawer y pŵl a'r pwysig yn gymdeithion. Pe siaradem Gymraeg yn Gymreigaidd, byddai perygl
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/196
Gwedd