A ddarlleno, ystyried,
A ystyrio, cofied,
A gofio, gwnaed.
Ydwyf, etc.,
—ATHRO.
DARN O'R GWERSI I YSGRIFENWYR A SIARADWYR
IEUAINC," ALLAN O'R "Faner", TACHWEDD 17, 1880.
Gwych gennyf i fod cynifer o wŷr ieuainc dysgedicaf Cymru er ys talm bellach yn ymroi i ddysgu iaith ac i ddarllen hen lyfrau eu gwlad, a bod nifer y coegion sy'n meddwl y medrant lefaru a sgrifennu yn eu hiaith eu hunain heb ymdrafferthu i'w hastudio, yn myned yn lleilai o flwyddyn i flwyddyn. Oni buasai am yr ysbryd arall a gwell a ddaeth yn ddiweddar ar ein dysgawdwyr, diau yr aethai Cymraeg y wasg a Chymraeg y pulpud cyn hir yn iaith farbaraidd, annheilwng o genedl ddiwylliedig. Pan elo iaith yn sâl, y mae hi'n barod i farw; a phan elo hi'n rhy wael i fod yn addas i bob rhyw berwyl, gorau po gyntaf y bo hi farw. Yng ngenau y rhan fwyaf o bregethwyr ac yn llaw y rhan fwyaf o sgrifenwyr y dyddiau hyn, y mae'r Gymraeg yn iaith dlawd iawn: yn brin