Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei geiriau ac yn aflêr ei brawddegau. Yn wir, ni chawsai dynion mor anhyddysg yn eu priod iaith ddim cyfle i addysgu eraill mewn un wlad arall ar y ddaear. Ond yn llaw gwŷr cyfarwydd, bu'r Gymraeg bob amser yn ddigonol i bob peth ar a ofynnid ganddi. A drowyd y Beibl i ryw iaith yn well nag y'i trowyd i'n hiaith ni? A oedd yn Ewrop, yn yr Oesoedd Canol, rywrai'n medru chwedleua'n rhagorach na chwedleuwyr Cymru? A sgrifennodd un Sais neu un Ffrancwr yn fwy hoyw na Morus Kyffin a Theophilus Evans? yn fwy cryno nag Elis Wynn? yn fwy cyfareddol na Morgan Llwyd? ac yn fwy dichlyn na'r caplan brenhinol John Evans, A.M.? A fynegodd rhyw emynydd wahanol deimladau'r dyn duwiol yn gystal â Williams, sef Williams Fawr o Bantycelyn? A welodd llygad, a glywodd clust, ac a ddychmygodd calon dyn, rywbeth na allai meistr o feddyliwr neu feistr o ysgolhaig ei draethu a'i ddarlunio yn y Gymraeg yn llawn cystal ag mewn un iaith arall? Dynion tlawd eu hunain sy'n cwyno bod y Gymraeg yn dlawd. Golud y Gymraeg, ac nid ei thlodi, fydd yn gyrru penbleth ar y gŵr cyfarwydd. Nid gofyn "Pa air a gaf?" fydd hwn, eithr "Pa air a ddewisaf o blith cynifer o eiriau gogyfystyr?"