Ys gwir nad oes neb yn yr oes hon a fedr droi Gwladwriaeth Plato neu Fucheddau Plutarch i gystal Cymraeg ag y trowyd y Beibl iddo; ond arnom ni, ac nid ar ein hiaith, y mae'r bai am hynny. Pe na buasai llenorion gwir ysgolheigaidd o fath yr Esgob Morgan, yr Esgob Parry, yr Esgob Richard Davies, a'r Dr. John Davies, wedi darfod o'r tir yn Oesoedd Tywyll yr Eglwys Sefydledig ac yn ystod rhwysg Anghydffurfiaeth dra gwerinaidd, buasai'r Gymraeg erbyn hyn yn iaith grynhoach ac ystwythach nag ydoedd hi hyd yn oed yn amser y cedyrn hynny. Diau gan hynny y buasai gennym ddigon o wŷr a allasai ddiwygio llawer ar gyfieithiad diwygiedig y Dr. Parry, heb fod neb yn ein plith yn ddigon anllythrennog i'w farbareiddio yn ôl dull pob esboniwr diweddar oddieithr y Parch. Puleston Jones.<ref>Er bod iaith y gŵr dawnus hwn weithiau'n rhy werinaidd i fod yn urddasol, eto nid oes neb byw a chanddo well syniad nag ef am anian (genius) y Gymraeg. "'Does dim dwywaith," chwedl yntau, am hyn.—E. ap I.
Gwell yw crynhoder na byrder: am fod y cryno yn cynnwys pob gair y mae'n rhaid wrtho. Sgrifenwyr chwanocaf i ymwrthod â geiriau rheidiol yw'r rhai chwanocaf i arferyd geiriau afreidiol.