Y mae llawer o Gymry yn sgrifennu'n anghywir o wybod tipyn o Saesneg, a dim o un iaith estronol arall. Pan gaffont well a helaethach addysg diau y byddant yn well Cymreigwyr. Onid y Cymry mwyaf hyddysg yn ieithoedd a llên cenhedloedd eraill fu'r Cymreigwyr gorau ymhob oes?
Os cas gan rywun ddechrau rhes o ymadroddion ag y mae, gwybydded fod llawer ffordd amgenach i osgoi hynny na thrwy arferyd ffurf yr amser dyfodol yn lle'r amser presennol. Onid yw dechrau agos pob brawddeg â rhyw ferf yn gwneud y brawddegau mor bŵl â phe baid yn dechrau pob un ohonynt ag un o ffurfiau presennol y ferf bod? Pa Gymro bynnag sy'n ymadroddi yn rhy unffurf, arno ef ei hun, ac nid ar y Gymraeg, y mae'r bai. Fel y bydd meddwl dyn, felly yn union y bydd ei iaith a'i arddull. Os bydd min ar ei feddwl, bydd min ar ei iaith hefyd; os bydd amrywiaeth yn ei feddyliau, bydd amrywiaeth yn ei ymadroddion hefyd. Yr oedd yn syn gan Ruskin fod Shakespeare yn medru barddoni mor dda mewn iaith mor anfarddonol â'r Saesneg. Nid oedd raid iddo synnu dim—ymdrŷ pob rhyw wialen yn hudlath yn llaw swynwr.