Rhag i neb feddwl nad yw rydd i Gymro arferyd yr amser dyfodol yn fynychach na'r Sais, dylwn ddywedyd ei bod yn briodol iddo arferyd ffurf yr amser dyfodol nid yn unig am bethau a fydd, ond hefyd am bethau a all fod, sy raid eu bod, ac a ddylai fod; ie, ei bod yn briodol iddo arferyd y ffurf honno pa bryd bynnag y byddo'r hyn sydd wir yn yr amser y sydd, yn wir yn yr amser a fydd hefyd. Fe wêl y neb a gofio hyn nad yw cyfieithwyr y Beibl Cymraeg wrth arferyd berf yn yr amser dyfodol, lle y mae'r cyfieithwyr Saesneg yn arferyd berf yn yr amser presennol, ddim yn myned yn erbyn yr arfer gyffredin mor fynych ag yr ydys yn tybied eu bod. O ran hynny, onid oedd y Saeson eu hunain, pan gyfieithwyd y Beibl, yn gwneud mwy o ddefnydd o'r amser dyfodol, a llai o'r amser presennol, nag y maent yn ei wneud yn yr oes hon? Fel y mae'r Sais yn chwannog i wneud eiddo cenhedloedd eraill yn eiddo iddo'i hun, felly y mae'n naturiol iddo chwenychu gwneud pob amser yn eiddo iddo'i hun, trwy ei droi i'r amser presennol. Pe bai'r Sais yn byw mwy yn y dyfodol, a'r Cymro yn byw mwy yn y presennol, byddai'r naill a'r llall yn fwy o feistr ar amserau y ferf. Trwy ddysgu tipyn gan ei gilydd, odid na fedr
Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/202
Gwedd