Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd gyda rhagenwau a geirynnau rhagferfol, ond gydag aeddfedrwydd blynyddoedd fe roddodd heibio lawer o'r mân driciau hyn. Eto, wrth ymgodymu â'r iaith yn ei ffordd ei hun, ynghyd â thrwy ei hastudio yng ngorchestion eraill, fe'i hystwythodd, ac amlhau ei hadnoddau.

Y mae'r detholiad hwn yn cynnwys traethodau a chyfraniadau eraill ar iaith, arddull, a llenyddiaeth Gymraeg, ar Paul-Louis Courier, ynghyd âg ar ambell bwnc perthynasol arall. Fe godwyd peth o'r defnydd yn syth o lawysgrifau Emrys ei hun, ond yng ngholofnau'r Faner a'r Geninen y cafwyd rhan fwyaf. Diweddarwyd yr orgraff a chymhwyswyd ychydig ar fanion iaith yn yr un modd ag a wnaed yn y gyfrol flaenorol. Unwaith eto y mae diolch yn ddyledus i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei garedigrwydd yn darllen y proflenni, i Mr. Prosser Rhys eto am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Dymunaf ddiolch yn fawr hefyd i Mr. John Morris, Trefnant, am gael benthyg rhai o lawysgrifau Emrys ap Iwan, a chael copïo ohonynt ar gyfer y gyfrol hon. Manteisiwyd yn fawr hefyd ar adnoddau'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ionawr, 1939. D. MYRDDIN LLOYD.