Y CYFNOD CATHOLIG A'R CYFNOD PROTESTANNAIDD,
gan adrannu'r Cyfnod Protestannaidd yn gyfnod Eglwysyddol ac yn Gyfnod Ymneilltuol.
Y mae Vinet a Menzel a Macaulay, a phob Protestaniad darllengar arall, am a wn i, yn addef bod crefydd Eglwys Rufain, oherwydd ei hynafiaeth, ei chwedloniaeth, ei rhwysg, ac amrywiaeth ei defodau, yn fwy barddonol o lawer na chrefydd Eglwys Loegr, ac yn fwy fyth felly na chrefydd yr Ymneilltuwyr; ac o achos hynny, y mae mwy o liw a sawr barddoniaeth ar ryddiaith y cyfnod cyntaf nag sydd ar ryddiaith yr ail a'r trydydd cyfnod. Yr hyn ydyw hanesion yr Hen Destament a damhegion yr Iesu i'r Epistolau, hynny ydyw'r Greal, y Mabinogion, a rhai o'r Brutiau, i sgrifeniadau mwy athrawiaethol y tri chanmlwydd diwethaf. Yng ngolwg y diwinydd yn ddiau, y mae'r lleiaf o'r Epistolau yn werthfawrocach nag araith Jwda, dameg Jotham, caneuon Moesen, a galarnadau Dafydd; ond yng ngolwg y llenor, anghymeradwy fydd y gwir, os na bydd o'n wir gloyw; a diflas fydd y da, os na bydd o'n dda teg yr olwg. O ran bod yn dda, nid yw llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod cyntaf na gwell na gwaeth na llenyddiaeth y cyfnodau dilynol. Y mae hi'n llai gwir, a'i barnu