Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llefaru ac ysgrifennu Saesneg neu ryw iaith arall yn gywir ddigon, eto, yn eich iaith eich hun yn unig y gellwch obeithio llefaru ac ysgrifennu'n gain, oblegid hon sydd yn ddelw eich ysbryd ac yn wir lun eich meddwl. Yn hon y gellwch chwi draethu'ch meddyliau yn naturiol, ie, yn hon y gellwch chwi feddwl y meddyliau hynny ynoch eich hun. Y mae hi'n offeryn y meddwl yn unig am ei bod yn sylfaen iddo. Y mae'r gair sy'n gynnyrch y meddwl yn gweithredu'n ôl ar y meddwl ei hun, a thrwy hwnnw'n gweithredu ar holl fywyd dyn. Fel y bydd yr iaith, felly y bydd y dyn, ac felly y bydd y genedl. Y mae iaith dda'n hyrwyddo gwareiddiad, ac iaith wael, neu iaith nad ydys yn ei medru'n dda, yn rhwystro gwareiddiad. Y mae adfywiad llenoriaeth bob amser yn cydfyned ag adfywiad iaith. Pan gyhoeddodd Dante y Divina Comedia fo roes i'w gydwladwyr iaith a llenoriaeth ar yr un pryd. Pan ymroes Lessing i buro ac i berffeithio iaith yr Ellmyn y paratowyd y ffordd i Goethe a Schiller. Pan ddechreuodd Wolff yn nechrau'r ganrif o'r blaen draethu ei ddarlithiau athrofaol yn iaith ei wlad, yn lle mewn iaith estronol fel y gwneid o'r blaen, y dechreuodd athroniaeth redeg a chael gogonedd yn yr Almaen. Os ydyw llenoriaeth y wlad honno'n