Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy cydolig yn fwy cosmopolitan—na llenoriaeth un wlad arall, y mae hi felly am ei bod yn fwy cenhedlig. Pan geisio pobl fynd yn gydolig trwy beidio â bod yn genhedlig ni byddant yn ddim i neb, ond pan geisiant fod yn gydolig trwy fod yn genhedlig, byddant yn bob peth i bawb. Paham y dylanwadodd Luther fwy ar ei wlad ac ar y byd na'i gyfaill dysgedicach, Melanchthon? Yn un peth, am ei fod yn Allman o'r Ellmyn, ac oblegid hynny, fel gwladgarwr a llenor Ellmyneg y mawrygir o bellach yn yr Almaen. Yr wyf yn gwneud y sylwadau cyffredinol hyn am fod tuedd ynddynt i beri ichwi ddal yn well ar y pethau mwy neilltuol a ddywedaf ar ôl hyn.

Er bod y Gymraeg, fel agos pob iaith dda, yn iaith anodd iawn, eto fe all pob dyn trwy ei hastudio ac ymarfer â hi, ei hysgrifennu'n gywir, os nad yn gain hefyd. Trwy yr un moddion gellwch wellhau'ch arddull hefyd, os bydd gennych arddull. Wrth arddull yr wyf yn meddwl yr argraff neilltuol honno y mae awdur yn ei gosod ar yr iaith gyffredin. Efallai fod arddull yn dibynnu llawn mwy ar gymeriad moesol dyn nag ar deithi ei feddwl, ac nid ychydig ar ei dymer a'i iechyd. I sgrifennu mor feddylgar â Carlyle fe fyddai'n rhaid ichwi wrth ymennydd Carlyle; ond i sgrif-