LLENYDDIAETH GREFYDDOL Y CYMRY GYNT
I'w gwrando ac nid i'w darllen y darparwyd y sylwadau hyn; ac yr wyf yn eu cyhoeddi yn unig rhag dibrisio penderfyniad caredig Penadur ac astudwyr Coleg Diwinyddol y Bala.—E. AP I.
Er bod llenyddiaeth yn un a diwahân, ac iddi'r un egwyddorion ymhob cylch, eto fe ddywedir er mwyn cyfleustra ei bod naill ai'n grefyddol neu ynteu'n gyffredin—yn gyffredin, meddaf, ond nid yn aflan; am fod pa beth bynnag sydd wrthun ym meddyliau ysgrifenedig dyn yn annheilwng i'w alw'n llenyddiaeth. Y mae llenyddiaeth gyffredin yn dda am ei bod yn darparu ar gyfer yr enaid; y mae llenyddiaeth grefyddol yn well o lawer am ei bod hi'n darparu ar gyfer yr ysbryd hefyd. Y mae'r gair "llenyddiaeth" ynddo'i hun agos ymhob iaith hysbys yn golygu gwybodaeth deg, neu ddysgeidiaeth gain; a pha beth bynnag nad yw wir, nad yw onest, nad yw bur, nid yw hwnnw yn deg chwaith. Yr un gair, meddant hwy, oedd gan y Groegiaid am y teg ac am y da; a gair go gyffelyb i "deg", sef "disgleirdeb", ydyw ystyr y gair "da" yn y Gymraeg hefyd. Fe wnaeth yr hen Ymneilltuwyr, yn ddiau, lawer iawn tuag at ddyrchafu