Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am gryn amser, rhag i'r cyfarfod derfynu cyn wyth ar gloch. Gyr y teimlad hwn rai i weddïo'n hytrach wrth y cloc nag wrth eu hangen. Ymdrônt i ragymadroddi yn y modd mwyaf ystrydebol; traethant yr un peth drachefn a thrachefn; a'r hyn sydd waeth fyth, cymerant enw'r Arglwydd yn ofer yn nechrau agos bob brawddeg; a hynny fe ellid tybied yn unig er mwyn cael hamdden i ymbalfalu am rywbeth i orffen y frawddeg. Cofier nad beio ar y gweddïwyr yr wyf yn awr, ond ar y drefn sy'n temtio dynion i weddïo fel yna. Barnaf fod gweddïau o'r fath yna'n lladd ysbryd addolgar yn y gweddïwyr eu hunain ac yn y gwrandawyr hefyd. Rhaid i ddyn ddysgu ei gydddynion trwy ymgynghori, trwy esbonio neu trwy bregethu, boed ef yn yr ysbryd neu beidio; ond yn sicr, dylai gweddio Duw fod yn rhywbeth mwy naturiol, mwy spontaneous.

Yn awr, tra cedwir cyfarfodydd i weddïo'n gyhoeddus, anogwn ein gilydd i beidio â myned rhagom i siarad ar ôl gorffen dweud. Na wasger ar bawb i ddyfod i'r sêt fawr, ond gadawer iddynt, os bydd yn well ganddynt, weddio ar ychydig eiriau o'u lle. Os mynnir cynefino'r ieuenctid â'r gwaith, gofynner iddynt yn gyntaf oll roi pennill i'w ganu. Gofynner iddynt yn y man ddyfod ymlaen i ddarllen pennod o'r Beibl, gan osod rhywun hŷn a mwy profedig i