Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwysig. Y mae'n wir nad oes neb yn deall y Beibl yn llawn, ond medr pawb geisio ei ddeall yn ôl y ddawn a roddwyd iddynt; dyna'r tir y mynnwn gael pob aelod iddo. Os bydd rhywun wrth ddarllen yr Ysgrythur gartref yn taro wrth adnod nas medr mo'i deall, deued i'r cyfarfod eglwysig i ofyn am eglurhad arni. Gwna fwy o les iddo'i hun, ac i eraill hefyd, wrth ddangos tywyllwch nag wrth gyffesu'n unig ei fod mewn tywyllwch. Y mae dyn call yn parchu dyn tywyll os gwêl ei fod yn ceisio'n ddyfal am oleuni.