Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf III.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DR. EDWARDS, A'R ACHOSION SEISNIGOL

FONEDDIGION,

Teimlaf fod dyled arnaf fel Cymro, fel Cristion, ac fel Trefnydd Calfinaidd, i gyd-ddywedyd ag eraill yn erbyn yr hyn a ddywedodd Dr. Edwards, o'r Bala. Llosgodd Luther yn Wittenburg gyhoeddiad esgymunol Leo neu Lewis X, a oedd, gyda llaw, mor llengar a pharchedig â'r hyn a ddywedwyd yn Nolgellau. Y mae arnaf ofn y bydd i'r parch sydd gennyf i Dr. Edwards fel un a wnaeth lawer i ddyrchafu llenyddiaeth Gymraeg fy atal rhag ei sennu mor llym ag y dylid am ei ymddygiad yng nghyfarfod Dolgellau.

Bwriodd ef ei hun, o bryd i bryd, lawer o wawd bras ar y dosbarth y mae yn awr yn aelod ohono; ac am hynny, wrth gondemnio gwendidau ei henaint, ni ddylid gollwng dros gof y gwaith da a wnaeth yn ei ddyddiau gorau. Hyd yn hyn, ni ddywedais air yn erbyn y Doctor, yn gêl nac ar gyhoedd, ond y mae un peth na ddichon ac na ddylai Cymro ffyddlon ei faddau yn neb.

Yr oedd yn llawen gennyf ddarllen, oddi cartref, ers talm o amser yn ôl, fod y Trefnyddion Calfinaidd yn