casglu arian i'w rhoi'n dysteb i Dr. Edwards. Ond y mae'n ddrwg gennyf fy mod yn gorfod ofni erbyn hyn fod gwobrwyon mawr y cyfoethogion wedi ci ddenu ef i bleidio eu mympwyon. Llawer cedrwydden gadarn a dorrwyd i lawr â bwyell aur.
Y mae Dr. Edwards, hyd yn oed yn awr, yn gaffaeliad mawr i ba blaid bynnag a'i caffo. Addefaf mai'r ddadl gryfaf-yn wir, yr unig ddadl gref-o blaid yr achosion Seisnigol yw y Doctor ei hun. Dywedodd y llywydd fod cyffro'r Doctor yn rheswm cryf; ond y gwaethaf yw, Mr. Donne, nad oes dim modd argraffu rheswm o'r fath yna; ac am hynny, y mae'n amhosibl i'r rhai na fuont yn Nolgellau deimlo ei rym. Am resymau argraffedig yr hwn a gyffrowyd, y maent mor eiddil â rhesymau'r tad a'r mab o . . .; ond y mae'n rhywbeth i ddynion bychain gael dweud fod un "dyn mawr" yng Nghymru yn cydfarnu â hwynt. Ni waeth pa beth a ddywedir wrth rai dynion yn erbyn trais nac ynfydrwydd na dim arall, canys caeant eich genau â'r ffaith ddarfod gwneud y trais hwn gan ryw ddyn da, neu ddarfod dangos yr ynfydrwydd yna gan ryw ddyn doeth. Dyma eu rhesymeg hwy—"Brutus assassinated Caesar; assassination is honourable, for Brutus was an honourable man." Ni ddylid rhyfeddu gormod fod dyn mor ddoeth â Dr. Edwards wedi siarad mor hynod o annoeth yn Nol-